AO3 News

Post Header

Published:
2020-08-02 15:39:37 UTC
Original:
Problems logging in to your account?
Tags:

I wellhau diogelwch a chynhaliaeth, rydym wedi newid cod system mewngofnodi yr “Archive of Our Own - AO3” (Archif Ein Hun) yn gyfan gwbl. Fel dywedom yn gynharach, wnaeth y newid hon achosi bob defnyddydd i gael eu hallgofnodi. Os rydych yn gwybod eich enw cyfrif a’ch cyfrinair, dylwch dal gallu mewngofnodi fel arferol. Er hyn, dyma rhai bethau i dseicio os rydych yn cael trafferth.

A ydych chi wedi gweithredu eich cyfrif trwy ddilyn y cyswllt yn yr ebost cadarnhad cofrestri?

Os rydych chi wedi cofrestri ar yr AO3 yn ddiweddar ac yn cael trafferth mewngofnodi, gwnewch yn siwr rydych chi wedi gweithredu eich cyfrif! O fewn 24 awr ar ôl i chi cofrestri, dylech fod wedi derbyn ebost cadarnhad cofrestri o “[email protected]”, yn gofyn i chi gweithredu eich cyfrif AO3 yn defnyddio'r cyswllt yn yr ebost. Fel arfer, mae'r ebost gweithredu yn cyrraedd yn syth ar ôl creu eich cyfrif, ond gall rhai ddarparydd ebost oedi derbyniad yr ebost yn sylweddol.

Ar ôl i chi gweithredu eich cyfrif, dylwch derbyn ebost cadarnhad gweithredu o'r un ebost: “[email protected]”. Weithiau, mae'r ebostiau yma yn mynd a'r goll yn yr hidlydd sbam neu drwy trefnydd ebost, felly gwnewch yn siwr rydych yn edrych yn rhain hefyd! Os ni allwch ddod o hyd i naill ai eich cais gweithredu neu'ch ebost cadarnhad gweithredu, a mae hi wedi bod dros 24 awr ers i chi gofrestri, gallwch cysylltu â Chefnogaeth, yn gofyn i'ch cyfrif cael ei weithredu gan weinyddydd.

Os ydych chi'n ceisio mewngofnodi â'ch enw cyfrif, a ydy o wedi'i sillafu'n gywir?

I dsiecio os mae enw defnyddydd yn bodoli ac yn perthyn i chi, ewch i’ch bar cyfeiriad porwr a mewnbynnwch https://archiveofourown.org/users/USERNAME, ac ailosodwch “USERNAME” gyda’ch enw cyfrif. Os mae’r cyfrif yn bodoli, bydd hyn yn cymryd i’w “Dashboard” (Penbwrdd). Byddwch wedyn yn gallu sicrhau bod yr eicon, gwybodaeth proffil, neu’r gweithiau gyhoeddus neu tudalnodau ar gyfer y cyfrif yn perthyn i chi.

Nodwch bod enwau cyfrif dim ond yn gallu cynnwys is- a phriflythrennau o A-Z, rhifau, a danlinellau (_).

Os ydych chi'n ceisio mewngofnodi â'ch ebost, a ydy o wedi'i sillafu'n gywir?

Os oes gennych fwy nag un ebost, byddent efallai yn helpu i fynd i’r dudalen "New Password" (Cyfrinair Newydd), mewnbynnu eich ebost, a pwyso “Reset Password” (Ailosod Gyfrinair). Os nad yw’r ebost a mewnbynnwyd yn gysylltiedig ag unrhyw cyfrif, bydd neges gwall yn cael ei arddangos, a ni fydd ebost yn cael ei hanfon. Gall gwneud hyn am bob un o’ch ebyst eich helpu chi i ddarganfod pa un defnyddioch chi am eich cyfrif AO3.

Gallwch dal mewngofnodi gyda’ch cyfrinair arferol ar ôl caiff ebost ailosod ei hanfon (anwybyddwch yr ebost).

A yw eich cyfrinair yn gywir?

Os rydych wedi sicrhau bod yr enw cyfrif neu ebost rydych yn defnyddio i geisio mewngofnodi yn gywir, efallai y broblem yw eich cyfrinair. Llenwch y ffurflen ar y dudalen dudalen "New Password", a bydd cysylltiad sy’n eich galluogi i newid eich cyfrinair yn cael ei ddanfon i chi

Os nad ydych yn derbyn yr ebost o fewn 24 awr, tsieciwch eich hidlydd sbam neu drwy eich trefnydd ebost. Bydd yr ebost gyda’r teitl "[AO3] Reset your password" ([AO3] Ailosod eich cyfrinair).

Newidiad (28 Rhagfyr, 10:43 UTC): Oherwydd newidiad i’r ffordd mae cyfrineiriau yn cael ei lanhau, fydd rhaid i chi ailosod eich cyfrinair os oedd o yn cynnwys y cymeriadau < neu > yn orffenol. (Gallwch parhau i ddefnyddio < and > yn eich cyfrinair; ond mae rhaid iddo cael ei diweddaru ar gyfer ein system newydd.)

A yw'ch porwr yn mewnbynnu eich enw cyfrif a'ch cyfrinair yn awtomatig?

Os rydych yn defnyddio gwasanaeth awto-gyflawni eich porwr neu rheolydd cyfrinair i fewngofnodi i'r AO3, mae yna siawns mae'r enw cyfrif a chyfrinair ar ffeil yn anghywir. I fod yn siwr, dileüwch y testyn mewngofnodi cyn-llwythiedig ac ail-deipiwch eich enw cyfrif a'ch cyfrinair ar law. Cofiwch i ddiweddaru cofnod y gwasanaeth awto-gyflawni neu rheolydd cyfrinair gyda'r gwybodaeth cywir, i atal y broblem hyn rhag ddigwydd eto.

Ydych chi wedi trio dileu cwcis eich porwr?
Weithiau, gall problemau mewngofnodi cael eu hachosi gan gwcis cam-ffurddweddedig neu llygredig. Gall gwallau cwcis arwain at neges gwall gan ddweud nad yw'r cyfrinair neu'r enw cyfrif a gofrestrwyd gennych yn cydweddu â'n cofnodion, hyd yn oed pan fyddant yn gywir, neu amod lle cewch neges mewngofnodi llwyddiannus ond nad ydych chi mewn gwirionedd wedi'ch mewngofnodi. Er mwyn sicrhau nad yw'ch gosodiadau cwcis yn eich cadw rhag cael mynediad at yr AO3, gwiriwch fod eich porwr wedi'i ffurfweddi i dderbyn cwcis o AO3 a chlirio'ch cwcis cyn ceisio mewngofnodi eto. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer rheoli cwcis yn wahanol rhwng fersiynau porwyr, ond dyma rai cysylltiadau i'ch helpu i ddechrau:

Ydych chi wedi ceisio analluogi ategion porwr ac ychwanegion?

 

Weithiau, gall ategion porwr neu ychwanegion ymyrryd â'r broses mewngofnodi. Er mwyn sicrhau nad yw eich gosodiadau porwr yn eich rhwystro rhag mewngofnodi, analluogwch unrhyw feddalwedd ychwanegol sy'n gysylltiedig â'ch porwr trwy ddilyn y dolenni isod.

Ydych chi wedi ceisio mewngofnodi trwy borwr neu ddyfais wahanol?

Os ydych chi'n llwyddo i fewngofnodi i’r AO3 trwy ddefnyddio dulliau eraill, mae eich broblem yn fwy debygol o fod yn broblem gyda'ch porwr neu'ch dyfais, yn hytrach na'ch cyfrif. Os yw hyn yn wir, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni am hyn trwy gysylltu â Chefnogaeth, fel y gallem ymchwilio ymhellach. Cofiwch gynnwys manylion am y porwr/porydd a'r ddyfais(iau) yr ydych chi wedi trio, yn ogystal â'r broblem ei hun.

Ydych chi wedi ceisio popeth uchod, ond dal yn methu mewngofnodi?

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar yr holl gamau hyn ac yn dal i gael trafferth mewngofnodi, defnyddiwch y ffurflen gyswllt hon i gysylltu â Chefnogaeth yn uniongyrchol.
Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth cyfrif yn y sylwadau ar y post hon gan fod yr holl sylwadau yn gyhoeddus a gall unrhywun sy'n mynd at y dudalen hon ei weld. Bydd sylwadau sy'n cynnwys gwybodaeth gyfrif yn cael eu dileu heb ateb.

Fel bob amser, cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosibl am fanylion eich problem, fel negeseuon gwall a dderbynwyd a chyfluniad eich porwr/dyfais, fel y gallem ni datrys trafferthion yn fwyaf effeithiol. Hefyd, dylech gynnwys pa un o'r camau uchod yr ydych wedi ceisio, felly gallem reoli'r materion hynny allan!